NDM7287 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal

NDM7287 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal

NDM7287 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.

2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.

3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;

b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;

c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a

d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Plant a Phobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal -Tachwedd 2018

Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant 2019

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod yna resymau cymleth tu ôl i lefelau cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y disgwyliad sydd ar awdurdodau lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn ddatrysiad arwynebol.

Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu:

a) mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni;

b) na ddylai cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu; ac

c) gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen.

Gwelliant 3 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod fod pobl ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal.

Gwelliant 4 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y dylai’r ysgogiad elw gael ei ddileu o’r maes gofal plant ac nad cwmnïau preifat yw’r dewis gorau i wasanaethu buddiannau plant Cymru yn y dyfodol.

Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynnu bod plant sy’n gwneud honiadau ynghylch camdrin mewn gofal yn cael eu cymryd o ddifrif ac y cânt eiriolwr, a bod arbenigwr diogelu plant yn siarad â nhw mewn lle diogel er mwyn trafod yr hyn â godwyd.

Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod fod ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod yn gyfan gwbl annibynnol a heb i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno amdano fod yn talu amdanynt.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 4 Maw 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS