Tasglu’r Cymoedd
Tasglu’r Cymoedd
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Dasglu’r Cymoedd.
Crynodeb
Sefydlwyd
Tasglu’r Cymoedd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2016, a bydd yn
gweithredu trwy gydol y Pumed Cynulliad, tan fis Mawrth 2021. Fe’i sefydlwyd fel catalydd i gyflawni
adfywiad a thwf cynaliadwy yng Nghymoedd y De.
Mae gan y Tasglu
saith maes blaenoriaeth – entrepreneuriaeth a chymorth busnes; yr economi
sylfaenol; tai; canolbwyntiau strategol; trafnidiaeth; Parc Rhanbarthol y
Cymoedd; a chronfa arloesi Tasglu’r Cymoedd.
Cylch gorchwyl
- Gwerthuso i ba raddau y mae Tasglu’r Cymoedd
o fudd i gymunedau’r Cymoedd, a pherfformiad ei fentrau polisi penodol o
ran sicrhau canlyniadau llwyddiannus sydd o gymorth i greu twf cynaliadwy
a lleihau tlodi
- Ystyried a yw’r Tasglu, a phrosiectau unigol,
wedi targedu ymyriadau’n ddigonol mewn rhannau o’r Cymoedd lle mae eu
hangen fwyaf
- Asesu effaith y newidiadau ym
mlaenoriaethau’r Tasglu a gyhoeddwyd gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth ym mis Gorffennaf 2019 ar ei effeithiolrwydd
- Penderfynu sut mae’r Tasglu’n gweithio gyda
mentrau datblygu economaidd eraill yn y Cymoedd, ac yn ychwanegu gwerth
atynt
- Asesu i ba raddau y mae’r Tasglu wedi
ystyried cydraddoldeb rhywiol wrth ddatblygu ffrydiau gwaith, a sut y bydd
yn mesur canlyniadau
- Ymchwilio i ddulliau posibl y gallai
Llywodraeth Cymru eu cymryd yn ei strategaeth economaidd sydd ar ddod ar
gyfer Blaenau’r Cymoedd, a pha gamau neu bolisïau penodol y dylid eu
cynnwys yn hyn
- Deall pa fesurau tymor byr ychwanegol y
gellid eu mabwysiadu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymunedau’r
Cymoedd cyn i’r Tasglu ddod i ben ym mis Mawrth 2021
- Ystyried sut y dylid datblygu gwaith y Tasglu
wedi iddo ddod i ben ym mis Mawrth 2021, pa ffrydiau gwaith y dylai
Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu, ac i ba raddau y gallai fod angen
unrhyw newid mewn dull gweithredu
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/02/2020
Ymgynghoriadau
- Tasglu’r Cymoedd (Wedi ei gyflawni)