Prosesau rhyddhau o’r ysbyty
Prosesau rhyddhau o’r ysbyty
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i’r broses ar gyfer
rhyddhau o’r ysbyty. Roedd yr ymchwiliad
hwn yn canolbwyntio’n benodol ar oedi wrth drosglwyddo gofal, h.y. pan mae claf
mewnol mewn ysbyty yn barod i symud ymlaen i gam nesaf y gofal, ond y bydd yn
cael ei atal rhag gwneud hynny am un rheswm neu ragor.
Ym mis Ionawr 2021, trafododd y Pwyllgor ei
raglen waith ar gyfer gweddill cyfnod y Senedd
hon ac, o ystyried yr amser cyfyngedig sydd ar ôl, cytunwyd y bydd yn parhau i
ganolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith
Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru. Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad yw’r Pwyllgor yn gallu parhau
â’i waith ar brosesau rhyddhau o’r ysbyty. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw at
y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, yn ei adroddiad etifeddiaeth, gydag
argymhelliad cryf bod ei bwyllgor olynol yn ailgychwyn yr ymchwiliad hwn cyn
gynted â phosibl yn y Chweched Senedd. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd
wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.
Cylch gorchwyl
Y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor oedd:
- Sut mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei 'fesur' (o ran
niferoedd ac effaith), yr hyn y mae'r data cenedlaethol yn ei ddangos
ynghylch pam mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd, prif achosion
pwysau ledled Cymru ac yn ystod y flwyddyn, a’r rhesymau posibl dros
amrywiadau.
- Beth yw'r prosesau rhyddhau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a
pha mor effeithiol ydynt o ran cadw at y canllawiau
SAFER ac enghreifftiau eraill o arfer da.
- A oes seilwaith ac ymwybyddiaeth staff i sicrhau bod y prosesau hyn yn
cael eu cyflawni'n effeithiol.
- Profiadau cleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff o’r prosesau rhyddhau.
- Beth sy’n rhwystro, a beth sy’n galluogi, cyfathrebu a chydweithio
effeithiol rhwng cyrff iechyd, cyrff gofal iechyd a chyrff y trydydd
sector.
- Nodi atebion a mentrau rheng flaen ymarferol sy'n gweithio, gan alluogi
i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn effeithiol, yn briodol ac yn
amserol, a sut y caiff y rhain eu cyflwyno a'u prif ffrydio.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/02/2020
Ymgynghoriadau
- Prosesau rhyddhau o’r ysbyty (Wedi ei gyflawni)