NDM7276 Dadl Blaid Brexit - Datganoli
NDM7276 Dadl Blaid Brexit - Datganoli
NDM7276 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn gresynu wrth fethiant datganoli yng Nghymru hyd yma.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod datganoli yng Nghymru wedi cael ei
lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau.
2. Yn galw am gryfhau datganoli yng Nghymru drwy:
a) datganoli'r doll teithwyr awyr; a
b) datganoli deddfwriaeth y system gyfiawnder yn llawn a
chadw sefydliadau cyfiawnder annibynnol Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u gwneud gan
bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i
sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu
wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn
barhaus ers dechrau datganoli.
2. Yn credu bod
Llywodraethau olynol y DU – o dan Lafur a’r Ceidwadwyr – wedi llywyddu dros
dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.
3. Yn credu y dylai
penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn
gweithio yma.
4. Yn credu mai meddu ar
ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant
Cymru yn y dyfodol.
5. Yn cytuno mai
cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar
annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.
[Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu 'datganoli yng Nghymru' a rhoi yn ei le
'Llywodraethau olynol Cymru'.
Gwelliant 5 - Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 6 - Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dewisiadau ymarferol eraill yn lle
datganoli, yn absenoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys
democrateiddio'r GIG a rhoi mwy o bwerau i riant-lywodraethwyr i benderfynu ar
bolisi addysg ysgolion.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 26 Chwe 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Caroline Jones AS