NDM7274 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffyrdd
NDM7274 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffyrdd
NDM7274 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau
economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant.
2. Yn cydnabod yr effaith economaidd ac amgylcheddol
andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a thagfeydd ffyrdd.
3. Yn gresynu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y
penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf
y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd
liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl;
b) datblygu cynigion ar gyfer gwaith i uwchraddio
cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i Abergwaun;
c) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â
chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y
pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys trwy ddatgarboneiddio
ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau newid moddol.
2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a
rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei
chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol
o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn
chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.
3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y
DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif
leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at
ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.
4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y
DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i
ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i
wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer;
yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;
b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy
addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi i
uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio prif
lein y De yn ei chyfanrwydd.
6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif
Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas
Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y
De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng
Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.
7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau
tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella
seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio
mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5,
6 a 7 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn trafnidiaeth
gyhoeddus werdd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a lleddfu tagfeydd ar y
ffyrdd.
Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cadarnhau’r egwyddor y dylai Llywodraeth Cymru fod yn
atebol i etholwyr Cymru a’r Senedd hon o ran blaenoriaethau seilwaith ffyrdd a
thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol
â hynny:
Yn gwrthod unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i benderfynu
ar flaenoriaethau gwariant a seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus y
Senedd hon ar ei rhan.
Gwelliant 5 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Geidwadol y DU a
Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni pecyn o fuddsoddiad seilwaith yn y
rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan.
Gwelliant 6 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
'sicrhau datblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer
rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig gwyrdd a chynaliadwy ar
gyfer Cymru, sy’n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r trafferthion
tagfeydd o amgylch Casnewydd.'
Gwelliant 7 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'gwella cysylltedd trafnidiaeth rhwng gogledd a de
Cymru.'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 26 Chwe 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS