P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru
P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru
P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i
Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Coed Cadw - The Woodland Trust in Wales, ar ôl casglu cyfanswm o 4,354
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu gorchudd coed ar frys a hynny er mwyn
helpu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chwymp natur sydd wedi'i gofnodi'n
dda.
Fe ddatgelodd 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' Llywodraeth Cymru nad
oes unrhyw ecosystemau yng Nghymru yn wydn yn ecolegol.
Mae arnom angen mwy o goed mewn ardaloedd trefol a gwledig i fynd i'r afael â
lefelau uchel o lygredd aer, i leihau cyfnodau poeth dros ben ynghyd â
llifogydd, i gynyddu bywyd gwyllt a chreu storfa garbon uwchben ac o dan y
ddaear.
Fe all afonydd, gwrychoedd a lleiniau gysylltu cynefinoedd mewn ffordd
effeithiol iawn, ac mae'r rhain yn croesi Cymru o'r mynyddoedd i'r arfordir.
Mae gan lawer ohonynt goedwigoedd, dolydd a chorsydd hynafol cyfoethog o ran
bioamrywiaeth, ond mae eu hystod a'u hansawdd wedi dirywio'n aruthrol dros y 50
mlynedd diwethaf.
Mae ein hafonydd ar eu hiachaf pan fydd stribedi eang o goetir llydanddail wrth
eu hochrau, wedi'u pori'n ysgafn. Mae coed yn darparu rhywfaint o gysgod tywyll
gan gadw afonydd yn oer a'u hamddiffyn rhag llygredd, gan leihau erydu pridd
sy'n digwydd mewn ffordd anghynaladwy, a'u helpu i gadw ffermwyr ar y tir.
Er mwyn helpu natur i wella mae rhaid i ni ail-greu tirweddau sy'n fwy
cyfeillgar i fyd natur trwy greu cynefinoedd rhyng-gysylltiedig mwy ac iachach.
Wedi'i gosod a'i hariannu'n gywir, fe all coedwig genedlaethol newydd ddarparu
llawer o atebion ar gyfer holl genedlaethau'r dyfodol, sef Cymru 'wytnach'.
Rydym yn galw am strategaeth gynhwysfawr i
gyflawni:
- cynnydd o 5000 hectar y flwyddyn mewn gorchudd coed mewn ardaloedd
trefol, ar ffermydd ac yn yr ucheldiroedd
- gorchudd coed sydd o leiaf 50% o goed llydanddail brodorol, sydd orau
ar gyfer bioamrywiaeth, a lles y cyhoedd
- rheoli coed, coedwigoedd, coetiroedd a gwrychoedd yn gynaliadwy, i'w
hamddiffyn rhag difrod a darparu brithwaith cymysg o gynefinoedd i fyd
natur a phobl
- cyllid newydd i ffermwyr ar gyfer 'Gwrychoedd a Lleiniaua phorfa
goediog draddodiadol – amaeth-goedwigaeth
- cyllid ar gyfer meithrinfeydd coed cymunedol, i alluogi pobl i ddod o
hyd i safleoedd ar gyfer coed, plannu a thyfu coed ledled Cymru
- 'Coedwig Genedlaethol Cymru' sy'n wirioneddol genedlaethol ac arloesol
Gwybodaeth
ychwanegol:
Cyfeiriadau
Argyfwng Hinsawdd: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-llywodraeth-cymru-yn-datgan-ei-bod-yn-argyfwng-hinsawdd?_ga=2.201866649.961203271.1566908326-1911851882.1561038657
Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau
Naturiol:
Cymru Wydn: https://futuregenerations.wales/cy/aotp/resilience-cy/
Gyda stribedi eang o goetir
llydanddail wrth eu hochrau, wedi'u pori'n ysgafn: https://www.researchgate.net/publication/281902234_Beyond_cool_Adapting_upland_streams_for_climate_change_using_riparian_woodlands
Meithrinfeydd coed cymunedol: https://www.longforest.cymru/News/planhigfeydd-coed-cymunedol-blog-gan-coed-cadw
Amaeth-goedwigaeth: cyfuno amaethyddiaeth a choed https://www.woodlandtrust.org.uk/blog/2018/07/cynhaeaf-cenedlaethau-r-dyfodol/
Geirfa
Bioamrywiaeth: yr amrywiaeth o fywyd a geir ar y ddaear. Mae'n
cynnwys pob rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, eu niferoedd a'u
hamrywiaeth genetig
Gwydnwch ecosystem: mae hwn yn golygu pa mor dda
y gall ecosystemau ddelio ag aflonyddwch - naill ai trwy eu gwrthsefyll, gwella
ohonynt, neu addasu iddynt. Gall ecosystemau gwydn barhau i ddarparu
gwasanaethau a buddion er gwaethaf yr aflonyddwch hwn
Cynefin: cartref neu amgylchedd naturiol anifail, planhigyn
neu organeb arall
Cysylltedd cynefinoedd: sut mae darnau o gynefin yn cysylltu â'i gilydd i
ffurfio rhwydwaith cynefinoedd cysylltiedig sy'n caniatáu i rywogaethau
ryngweithio a symud
Gwrychoedd a Lleiniau: y cynefinoedd sy'n ffurfio gwrychoedd, llinellau
coed, lleiniau, ymylon afonydd a nentydd, ffosydd, waliau cerrig a ffiniau
eraill
Nwyddau Cyhoeddus: nwyddau neu wasanaeth a ddarperir heb elw i bob
aelod o gymdeithas, naill ai gan y llywodraeth neu gan unigolyn neu sefydliad
preifat
Gorchudd Coed: yr ardal sydd wedi'i chysgodi gan ganopïau coed a
llwyni
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r wybodaeth
bellach a gafwyd am ddatblygiad parhaus cysyniad y Goedwig Genedlaethol i Gymru
ac ymglymiad y deisebwyr â’r Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd,
cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/03/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2020