Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020
Cyflwynwyd Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020 (y
Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 7 Ionawr 2020.
Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae
Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn
cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y
Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Ionawr 2020.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at
y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn dydd Iau 12 Mawrth 2020.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2020
Dogfennau