P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch

P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch

Wedi'i gwblhau

P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ralph Rees, ar ôl casglu cyfanswm o 117 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Mae polisi presennol Cynulliad Cymru wedi categoreiddio Amseroedd Ymateb Ambiwlansau ar gyfer unigolyn sydd wedi cael strôc yn y categori "oren", ac mae hyn yn golygu nad oes DIM targed amser ymateb i'w gyrraedd neu fodloni.

 

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i'r targed amser ymateb ar gyfer person yr amheuir ei fod wedi cael strôc gael ei ailgategoreiddio yn ôl i'r statws "coch", a thrwy hynny sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael strôc yn cael cymorth ambiwlans cyn gynted â phosibl.

 

Mae'n ffaith hysbys mai'r "awr euraidd" yw'r 60 munud mwyaf hanfodol i gael cymorth meddygol angenrheidiol i unrhywun sydd wedi cael strôc. Ni ddylai neb yng Nghymru fod â pherygl y caiff yr "awr euraidd" hon ei hesgeuluso drwy orfod aros am amser ymateb categori "oren" cyn cael cymorth ambiwlans.

 

Sicrhewch bod unigolion sy'n cael strôc yn derbyn yr amseroedd ymateb y maent y neu haeddu ac y maent eu hangen – sefydlwch darged amser ymateb "coch" heddiw.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y pwynt hwn yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Gymdeithas Strôc, a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/03/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Preseli Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2020