P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Initiative for Nature Conservation Cymru (INCC), ar ôl casglu 873 o lofnodion ar-lein a 322 ar bapur, sef cyfanswm o 1,195 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Mae Menter ar Gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC) yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnwys 'Bioamrywiaeth' yn benodol wrth osod eu cylch gwaith strategol i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020/2021 ac yn y dyfodol. Yn benodol dylai'r cylch gwaith gynnwys:

 

• Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn ganolog i'w bwrpas craidd wrth geisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy:

 

1. Gweithio tuag at welliant cyffredinol yn statws bywyd gwyllt Cymru ac atal neu o leiaf leihau'r risg o unrhyw ddifodiant pellach o ganlyniad i weithgareddau dynol.

 

2. Sefydlu ardaloedd cynaliadwy, mwy a llai tameidiog ar gyfer bywyd gwyllt, a ddylai ganolbwyntio i ddechrau ar gydgrynhoi ac ymestyn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol presennol ac ardaloedd gwarchodedig eraill, ac yna sefydlu ardaloedd newydd.

 

3. Blaenoriaethu'r angen i gael statws ffafriol neu adferol ar gyfer nodweddion cadwraeth ar bob safle cadwraeth natur statudol (AGA, ACA, SoDdGA a GNG).

 

4. Datblygu a gwella rhwydwaith effeithiol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n ddigonol i sicrhau bod bywyd morol a physgodfeydd cynaliadwy yn cael eu diogelu'n ddigonol o amgylch Cymru.

 

5. Sicrhau bod mwy o bobl yn mynd ati i gymryd rhan mewn materion bioamrywiaeth, a'u bod yn ymwybodol o arwyddocâd bioamrywiaeth i'w hiechyd a'u lles.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​Ers cychwyn Cyfoeth Naturiol Cymru chwe blynedd yn ôl, mae dirywiad cyson ac amlwg wedi bod yn ymrwymiad Cymru tuag at fioamrywiaeth a chadwraeth natur. Mae Cymru wedi'i disgrifio fel un o'r ardaloedd mwyaf disbyddedig o ran natur yn y byd sydd eisoes wedi achosi difodiant llawer o'i rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae nifer fawr o'r rhywogaethau sydd yn dal i fodoli bellach yn brin neu o dan fygythiad, gan oroesi mewn rhannau o'u cynefinoedd sydd yn aml yn ynysig.

 

Mae INCC yn credu bod pobl Cymru a'r bywyd gwyllt y maen nhw'n rhannu eu cymuned ag ef yn haeddu gwell. Mae angen mwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru os yw Cymru am fod ag unrhyw obaith o wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac atal difodiant bywyd gwyllt pellach rhag digwydd.

 

Ffordd effeithiol o ddangos yr ymrwymiad hwn tuag at wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth fyddai sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys 'Bioamrywiaeth' yn benodol fel rhan o gylch gwaith strategol Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

O ystyried y colledion parhaus i fywyd gwyllt a'r hyn a welir fel diffyg blaenoriaethu tuag at gadwraeth natur yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg na all 'Bioamrywiaeth' aros fel rhan ymhlyg o swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhaid ei wneud yn benodol a rhoi blaenoriaeth briodol iddo.

 

Os na fydd unrhyw newid, mae difodiant bywyd gwyllt yng Nghymru yn y dyfodol yn anochel.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i’w hysbysu am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma yng nghyd-destun eu hymchwiliad i Fioamrywiaeth ac Ailwylltio yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/02/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Canolbarth a Gorllewin de Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/02/2020