P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi

P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan C.A.R.I.A.D., ar ôl casglu cyfanswm o 1,738 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Yn dilyn rhaglen ddogfen a ddarlledwyd ar BBC One Cymru nos Lun 30 Medi 2019, yn tynnu sylw at gyflwr dychrynllyd y fasnach cŵn bach gyfreithlon, drwyddedig a reoleiddir yng Nghymru, ffaeleddau'r broses arolygu, yr anghysonderau a'r camgymeriadau yn adroddiadau arolygu trwyddedau'r Cyngor a'r canllawiau gofidus, yn aml, a roddir gan filfeddygon i arolygwyr trwyddedau (nad ydynt yn arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid) ar ffitrwydd cŵn bridio, rydym yn galw ar y Gweinidog i ymyrryd ar unwaith a rhoi cyfarwyddyd i holl gynghorau Cymru i osod embargo ar unrhyw drwyddedau newydd, ar brosesau adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio'n ymwneud â bridio cŵn nes bydd ymchwiliad llawn wedi'i gynnal i'r ffaeleddau hyn: Ffaeleddau rydym wedi bod yn darparu tystiolaeth arnynt ers blynyddoedd i Lywodraeth Cymru a chynghorau sydd, yn eu tro, wedi'u hanwybyddu neu eu diystyru. Nid oes unrhyw ddiben parhau i roi trwyddedau bridio cŵn o dan yr amgylchiadau dan sylw. Byddai gwneud hynny'n caniatáu i system drwyddedu ddiffygiol barhau, gan beryglu lles cŵn bridio a chŵn bach yn y sefydliadau hyn ac yn rhoi ymdeimlad ffug o sicrwydd i'r cyhoedd a fydd yn credu ei bod yn iawn iddynt brynu ci gan sefydliad sydd wedi'i drwyddedu o dan y drefn bresennol. Mae'n amlwg ei bod yn anodd i'r cyhoedd wahaniaethu rhwng fferm cŵn bach trwyddedig a didrwydded a chan fod y Gweinidog ei hun wedi ymrwymo i gael gwared ar ffermydd cŵn bach yng Nghymru, mae'n sefyll i reswm y bydd hi am gymryd y camau mwyaf priodol, a hynny ar unwaith, i sicrhau bod hyn yn digwydd nawr. Er ein bod yn croesawu'r addewid i gynnal adolygiad brys o'r system drwyddedu bresennol, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau cadarn, newydd ac addas i'r diben, ni ddylid cymeradwyo unrhyw drwyddedau newydd, ni ddylid adnewyddu unrhyw drwyddedau ac ni ddylid cymeradwyo unrhyw geisiadau cynllunio i adeiladu sefydliadau bridio cŵn newydd neu i ymestyn sefydliadau bridio presennol.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/02/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol de Cymru Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2020