P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch

P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch

Wedi'i gwblhau

 

P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bronwen Rosie Clatworthy, ar ôl casglu cyfanswm o 71 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gan ei bod yn orfodol i bobl ifanc sy'n astudio Safon Uwch ac Uwch Atodol gwblhau Bagloriaeth Cymru, siawns y dylai prifysgolion yng Nghymru dderbyn y cymhwyster, fel pob Safon Uwch arall, ar gyfer pob cwrs.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Un enghraifft o gwrs nad yw'n derbyn Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch yw Iaith a Lleferydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Nid oes unrhyw gyrsiau Iaith a Lleferydd eraill yng Nghymru.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yn wyneb safbwynt y Gweinidog Addysg mai mater i brifysgolion yw sefydlu'r gofynion mynediad ar gyfer eu cyrsiau – ac wrth nodi'r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer ymateb i argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/02/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Blaenau Gwent
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

         

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2020