P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent
P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent
P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Ebbw Fawr Business Community, ar ôl casglu cyfanswm o 1,332 lofnodion ar bapur.
Geiriad y ddeiseb:
Hoffai'r bobl isod fynegi pryder ynghylch y
drafnidiaeth gyhoeddus wael sy'n cael ei darparu ym Mlaenau Gwent. Mae'r
sefyllfa hon wedi arwain at drigolion yn dioddef anawsterau wrth geisio teithio
i'r gwaith. Maent hefyd yn cael problemau wrth geisio teithio i ysbytai ac
apwyntiadau doctor er mwyn cael sylw meddygol. Mae'r toriadau hefyd wedi gwneud
y broses o deithio ar yr amseroedd gorau yn llafurus ac, mewn rhai achosion, yn
amhosibl.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law
a chytunodd, oherwydd bod cefnogaeth a pholisïau lleol ar gyfer gwasanaethau
trafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent yn fater i'r awdurdod lleol ac mai’r
ffordd orau o’u dwyn ymlaen fyddai drwy graffu gan ei aelodau a'i bwyllgorau ei
hun, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i anfon
cwestiynau pellach y deisebydd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a
gofyn i'r Cyngor ymgysylltu'n uniongyrchol â Chymuned Fusnes Ebwy Fawr ar y
materion a godwyd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth
y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd
uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 04/02/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Blaenau Gwent
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2020