P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Archie’s Allergies, ar ôl casglu cyfanswm o 172 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:                  

Nid oes cyfraith yn bodoli yn unman yn y DU ar hyn o bryd sy'n cynnig addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion o oedran cynradd ac i fyny.

 

Rydyn ni eisiau newid hynny! Byddai cynnig sesiynau addysgol mewn ysgolion o fudd i blant sydd mewn perygl o anaffylacsis. Byddai'n helpu pobl eraill i ddeall alergeddau bwyd, sef cyflwr meddygol na fyddech yn ymwybodol o'i sgîl-effeithiau oni bai eich bod yn adnabod rhywun sydd â'r cyflwr.

 

Rydym yn gobeithio y byddai cyflwyno sesiynau addysgol ar alergeddau bwyd hefyd yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â nhw, yn dileu bwlio ac yn cynnig rhagor o gefnogaeth i blant sydd â'r cyflwr hwn.

 

Y cyfan y mae'n ei gymryd yw un cyffyrddiad neu un tamaid, ac, heb ddefnyddio epi pen, gallech fod yn wynebu sefyllfa drasig iawn.

 

Byddai cyflwyno hyfforddiant 'epi pen ' gorfodol hefyd yn cael gwared ar y pryder i deuluoedd sydd â rhywun ag alergeddau bwyd. Byddai athrawon a staff ysgol yn gwybod beth yw arwyddion hanfodol adwaith alergaidd, ac felly byddai modd iddynt sylwi ar anaffylacsis yn gynt.

 

Mae Archie's Allergies yn elusen newydd sy'n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth am bwysigrwydd bod yn ymwybodol o alergeddau.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor nad oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd, yn realistig, ar hyn o bryd yn sgil yr ymatebion manwl a ddaeth i law, gan gynnwys am waith a gynlluniwyd ond a ohiriwyd gan bandemig y Coronafeirws, a'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi gwrthod cyflwyno dyletswyddau cyfreithiol newydd ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei hymgysylltiad trwy gydol y broses.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/01/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

    

                        

 

               

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2020