P-05-931 Eli haul mewn ysgolion

P-05-931 Eli haul mewn ysgolion

Wedi'i gwblhau

 

P-05-931 Eli haul mewn ysgolion

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Leigh O'Connor, ar ôl casglu cyfanswm o 120 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Mae pob plentyn mewn perygl o losg haul yn yr ysgol neu ar daith ysgol. Mae hyn yn achosi problemau iechyd tymor byr ond mae hefyd yn achosi problemau hirdymor fel canser croen. Gellid osgoi hyn yn hawdd drwy ganiatáu i ysgolion roi eli haul arnynt gyda chydsyniad eu rhieni. Mae llawer o opsiynau ar gyfer gwneud hyn heb i'r athrawon orfod cyffwrdd y plant os yw hyn yn broblem.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Caerffili
  • Dwyrain De Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17.07.20 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yn wyneb y diffyg cyswllt gan y deisebydd gwreiddiol, ac o nodi'r ymateb i'r ddeiseb a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21.01.2020

 

 

Rhagor o wybodaeth

                        

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2020