Gradd-brentisiaethau

Gradd-brentisiaethau

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Ymchwiliad i Radd-brentisiaethau

 

Crynodeb

Ariannodd Llywodraeth Cymru radd-brentisiaethau gyntaf yn y flwyddyn academaidd 2018/19. Mae wedi dyrannu £20 miliwn i gynllun peilot tair blynedd, sy'n golygu bod recriwtio wedi parhau yn 2019/20 ac y dylai barhau ar gyfer 2020/21. Yn 2018/19, sef blwyddyn gyntaf y gradd-brentisiaethau yng Nghymru, cafwyd 155 o brentisiaid gradd o tua 60 o gyflogwyr. Ar gyfer 2019/20, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi dyrannu 585 o leoedd newydd a ariennir. Mae CCAUC hefyd yn monitro'r rhaglen. Yn ôl data CCAUC, roedd tua 80 y cant o garfan 2018/19 yn ddynion, ac roedd 86 y cant yn 21 oed neu'n hŷn a recriwtiwyd yn bennaf o blith staff cyfredol yn hytrach na staff newydd eu recriwtio. Ychydig iawn o brentisiaid y garfan gyntaf a nododd fod ganddynt anabledd, ac mae’r data ar ethnigrwydd yn annigonol. Nododd oddeutu 15 y cant eu bod yn siarad Cymraeg.

 

Mae prentisiaid gradd yn cael eu cofrestru ar “fframweithiau” prentisiaethau gradd; mae dau fframwaith ar hyn o bryd: Digidol, a Pheirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Nid oes cynlluniau cyhoeddus ar gyfer mwy o fframweithiau, ac argymhellion Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol sy’n dylanwadu ar y meysydd blaenoriaeth cyfredol.

 

Cylch gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn archwilio, trafod a cheisio gwybodaeth am yr agweddau canlynol ar brentisiaethau gradd:

 

·         Y rhesymeg sy’n sail i radd-brentisiaethau

·         Y broses a'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo cynigion gan ddarparwyr i ddarparu gradd-brentisiaethau

·         Y galw gan gyflogwyr a dysgwyr am y fframweithiau cyfredol, neu unrhyw alw am fframweithiau ychwanegol, a sut mae'n cael ei reoli

·         Recriwtio prentisiaid gradd a nodweddion personol carfan 2018/19 a charfan 2019/20 hyd yn hyn er mwyn gwerthuso i ba raddau y maent yn adlewyrchu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch, ac uchelgeisiau cydraddoldeb ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cydbwysedd rhwng y rhywiau

·         Ymgysylltu cyflogwyr a phroffil y cyflogwyr sy'n defnyddio’r rhaglen radd-brentisiaethau, gan gynnwys, os yn bosibl, y gwasgariad daearyddol

·         Y model ar gyfer cyllido gradd-brentisiaethau, lefel y cyllido yn gyffredinol a’r ymrwymiad sydd ei angen o ran cyllid i sicrhau y gall prentisiaid sydd eisoes ar y cynllun peilot tair blynedd gwblhau eu haddysg

·         Barn gynnar gan gyflogwyr, darparwyr addysg a dysgwyr am ba mor dda y mae gradd-brentisiaethau yn gweithio a’r hyn y gellir ei ddysgu o'r cyflwyniad ohonynt

·         Barn am ddull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru ynghylch gradd-brentisiaethau, a’r farn am eu cyflwyno, am eu heffaith ar brentisiaid sy’n bwrw prentisiaethau nad ydynt yn raddau, ac am berthynas y naill fath o brentisiaeth â’r llall

·         Barn ar gyfeiriad a photensial gradd-brentisiaethau yn y dyfodol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau