Craffu ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru

Craffu ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru

Cefndir

Yn dilyn ei phenodiad ar 13 Rhagfyr 2018, ymrwymodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddatblygu strategaeth ryngwladol ar gyfer Cymru. Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cymryd diddordeb brwd yn y gwaith hwn, sy’n cyd-fynd â’i gylch gwaith ar Brexit.

 

Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar berthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth ryngwladol uchelgeisiol newydd. Dylid ystyried ei waith pellach yn y maes hwn fel cyd-destun i'r adroddiad hwn.

 

Datblygu strategaeth ryngwladol ddrafft:

Yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Ebrill 2019, nododd y Gweinidog ei bwriad i gyhoeddi drafft o’r strategaeth cyn haf 2019.

 

Ymddangosodd y Gweinidog gerbron y Pwyllgor ar 10 Mehefin 2019 i ateb cwestiynau yn ymwneud â’r strategaeth. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd (PDF, 197KB) y Cadeirydd at y Gweinidog i ofyn am wybodaeth bellach, ac ymatebodd (PDF, 258KB) y Gweinidog ar 9 Medi 2019.

 

Cyhoeddi strategaeth ryngwladol ddrafft:

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ryngwladol ddrafft (PDF, 2.51MB) ar 31 Gorffennaf 2019 a chynhaliodd ymgynghoriad ar y ddogfen a ddaeth i ben ar 23 Hydref 2019.

 

Casglu tystiolaeth

Ymddangosodd y Gweinidog unwaith eto ar 23 Medi 2019, ac yna ysgrifennodd (PDF, 182KB) y Cadeirydd at a chafwyd ymateb (PDF, 312KB) gan y Gweinidog.

 

Ar 21 Hydref 2019 cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth ford gron gydag academyddion ar y strategaeth ryngwladol ddrafft.

 

Ymddangosodd y Gweinidog gerbron y Pwyllgor ar 18 Tachwedd 2019 ar gyfer sesiwn graffu bellach, lle cyhoeddodd fod lansiad y strategaeth wedi’i ohirio tan fis Ionawr 2020 oherwydd Etholiad Cyffredinol y DU ar 12 Rhagfyr 2019.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chrynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad (PDF, 386KB) ar y strategaeth ryngwladol ddrafft ym mis Tachwedd 2019.

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr 2019. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 5 Chwefror 2020. Trafodwyd yr adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn 4 Mawrth 2020.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2019

Dogfennau