P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dŵr Y Felin School Wellbeing Ambassadors, ar ôl casglu cyfanswm o 297 lofnodion ar bapur.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cyflwyno Llysgenhadon Llesiant hyfforddedig, fel bod pob plentyn yn cael cyfle i gael cefnogaeth cyfoedion gan fyfyrwyr model rôl sydd wedi’u hyfforddi i fod yn gyfaill i ddisgyblion sy’n agored i niwed yn ystod amser egwyl ac amser cinio, a fydd yn rhoi gwybod am faterion bwlio a bod yno fel ffrind i ddisgyblion a allai deimlo’n unig ar adegau penodol drwy gydol y dydd. Rydym yn gobeithio y bydd Rolau Llysgenhadon Llesiant yn datblygu/esblygu i redeg mentrau mewn ysgolion, yn y sir ac yn genedlaethol, er mwyn sicrhau bod ymgyrch o neges glir o ddim goddefgarwch i fwlio a bod lles yr holl ddisgyblion yn cael ei roi ar y pwys mwyaf ym mhob ysgol, i gefnogi hawliau’r plentyn ymhellach.  Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn mynd ymhellach er mwyn helpu i leihau faint o fwlio a welir mewn ysgolion ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus mewn ysgolion ledled Cymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Yn 2016, cawsom ein dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o brosiect ENABLE, menter yn y DU i dreialu gwersi gwrth-fwlio. Roedd rhan o’r fenter yn cynnwys hyfforddi disgyblion i gefnogi cyfoedion. Fodd bynnag, penderfynwyd mynd â hyn gam ymhellach drwy hyfforddi disgyblion i ddod yn llysgenhadon gwrth-fwlio. Ar ôl llawer o drafod gyda'n Senedd Ysgol, esblygwyd y cynllun llysgenhadon, gan newid ei enw i lysgenhadon llesiant. Roeddem am symud i ffwrdd o ddefnyddio'r gair bwlio yn rhy aml gan ein bod yn teimlo nad oedd disgyblion yn deall y gwahaniaeth rhwng gwrthdaro a bwlio. Roeddem hefyd eisiau i ddisgyblion wybod mai llesiant yw ein prif flaenoriaeth. Bydd disgyblion sy'n rhan o'r cynllun yn crwydro ardaloedd o amgylch yr ysgol, yn sylwi ar ddisgyblion sydd ar eu pennau eu hunain neu os ydyn nhw’n gweld bwlio yn digwydd maen nhw'n rhoi gwybod i'r oedolyn agosaf y maent yn ei weld, o'r Pennaeth i oruchwylwyr cinio.

Rydyn ni'n cwrdd unwaith y mis fel grŵp a phob blwyddyn rydyn ni'n esblygu'r cynllun ymhellach. Ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar feinciau cyfeillion fel bod disgyblion sy'n teimlo'n unig yn gallu eistedd yno a bydd llysgennad llesiant yno i'w cefnogi. Mae llawer o'n llysgenhadon hefyd yn aelod o’r Bwrdd Amddiffyn Iau o ganlyniad.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, er y cytunodd yr Aelodau fod hwn yn fater pwysig iawn, maent yn derbyn bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud gwaith i wella'r strategaeth gwrth-fwlio.  Cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gallant ei wneud fel Pwyllgor, ond nodwyd y gallant godi ymwybyddiaeth fel unigolion o'r mater pwysig hwn a'r arfer da a rennir. Wrth gau’r ddeiseb, canmolodd yr Aelodau’r bobl ifanc am eu hymrwymiad a’u hymgysylltiad â’r Pwyllgor Deisebau drwy gydol y gwaith, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, a gwnaeth y Pwyllgor eu llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud yn eu cymuned eu hunain.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/01/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Castell-nedd
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/11/2019