P-05-921 Hysbysiad cynharach ynghylch cyllidebau cynghorau gan Lywodraeth Cymru #AchubEinGwasanaethau
P-05-921 Hysbysiad cynharach ynghylch cyllidebau cynghorau gan Lywodraeth Cymru #AchubEinGwasanaethau
P-05-921 Hysbysiad cynharach ynghylch cyllidebau
cynghorau gan Lywodraeth Cymru #AchubEinGwasanaethau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
UNISON Neath Port Talbot, ar ôl casglu cyfanswm o 191 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
cyllidebau i gynghorau erbyn canol Ionawr 2020 fan bellaf er mwyn i awdurdodau
lleol, yn gyntaf, gydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol mewn perthynas
â'r broses gosod cyllidebau ar gyfer y dreth gyngor, ac yn ail fel y gallant
roi cyllidebau deddfwriaethol priodol i ysgolion er mwyn iddynt hwy
gydymffurfio â'u canllawiau eu hunain a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cangen Castell-nedd Port Talbot o UNISON yn
credu bod pob cyngor yng Nghymru o dan bwysau cyllidebol eithafol, gydag ambell
ddarpariaeth gwasanaeth wedi'u colli ac eraill ar fin cael eu colli, a chan bod
adolygiad gwariant hefyd ar y gweill, nid oes gan wasanaethau cyhoeddus ddim
dealltwriaeth bellach o oblygiadau'r adolygiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd y
Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi ar 19 Tachwedd 2019, gyda'i Chyllideb
Derfynol yn cael ei rhoi ym mis Chwefror, ond hyd yma does dim rhybudd o hyd
pryd fydd y Gyllideb Llywodraeth Leol wirioneddol ar gael. Bydd goblygiadau
deddfwriaethol ysgubol i BOB awdurdod lleol yn sgîl hyn, pan fydd yn rhaid
iddynt gymeradwyo cyllidebau yn seiliedig ar ffigurau setliad drafft i sicrhau
eu bod yn cydymffurfio â gofynion statudol ynghylch gosod Biliau'r Dreth
Gyngor.
Mae'r amserlen arfaethedig yn rhoi anawsterau
real iawn i gynghorau, oherwydd bydd angen newid pob cyfarfod craffu,
cyfarfodydd Cabinet dilynol a chyfarfodydd y Cyngor. Canlyniad hyn yw y gallai
cyfraddau'r dreth gyngor fod wedi'u chwyddo, ac y darganfyddir yn ddiweddarach
y byddai ffigurau'r setliadau wedi caniatáu rhagor o hyblygrwydd.
Cynghorau lleol yw'r prif gyflogwyr yn eu
hardaloedd yn aml, a bydd unrhyw ostyngiad i'w cyllid yn cael effaith andwyol
ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod yn gynaliadwy, ac
aros yn fewnol.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Rydym yn llwyr gefnogi
gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau sydd
â chysylltiadau da, sy'n fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy, gydag economi leol
gref ac ansawdd bywyd da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, fodd bynnag,
mae'n rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn ei dro yn sicrhau
diogelwch a lles ein preswylwyr ledled Cymru, a bydd canlyniadau gwell i bawb.
Daw'r cynlluniau
gwariant cyfredol i ben ym mis Mawrth 2020, ond mae'r holl arwyddion presennol
yn dweud wrthym na fydd yr amserlen ar gyfer ffigurau'r setliad yn rhoi unrhyw
gronfeydd cymeradwy inni tan fis Mawrth 2020. Mae hyn yn warthus: ni all unrhyw
gyflogwr gynnal menter gwerth miliynau o bunnoedd heb gyllideb.
Mae nifer y cynghorau
sydd bellach mewn sefyllfa i osod cyllideb anghyfreithlon yn frawychus, a
gwaethygir hyn gan gynigion grant heb eu hamseru, a rhai o'r rhain nad oeddent
mewn llaw tan ddiwedd y flwyddyn gyllidebu.
Mae grantiau Cyllid
Ewropeaidd a grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n aruthrol at y
gwasanaethau a ddarperir. Yn ogystal, mae angen i ni ystyried llinellau amser
wrth ddyfarnu grantiau yr ymddengys eu bod yn cael eu rhoi ar ôl i'r flwyddyn
ariannol ddechrau. Nid yw hyn yn gefnogol i waith cynllunio'r gweithlu nac i
ddarparu gwasanaethau.
Mae angen diwygio
sylweddol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor gwasanaethau lleol, ac i
ddod â'r anghydraddoldebau systemig rhwng cyllido darpariaethau cyhoeddus i
ben. Mae angen rhagor o ymreolaeth a rheolaeth ar awdurdodau lleol dros gynhyrchu
refeniw, gyda mecanweithiau wedi'u sefydlu ar gyfer awdurdodau lleol. Mae Cyrff
Gwarchod o ran Archwilio Cyhoeddus wedi bod yn tynnu sylw at y difrod sylweddol
sy'n cael eu gwneud i wasanaethau hanfodol, a heb fuddsoddiad mawr yn y
gwasanaethau hyn, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau i'r
rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, fel yr ifanc, neu bobl oedrannus
iawn, ar adeg pan mae galw cynyddol am ddarparu gwasanaethau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/01/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y
ddeiseb am y tro cyntaf. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebwyr am godi'r
mater hwn trwy'r broses ddeisebau ond y dylid cau'r ddeiseb gan nad oes llawer
y gall y Pwyllgor ei wneud yn hyn o beth, o ystyried mai amseriad Etholiad
Cyffredinol y DU oedd achos yr oedi eleni ac o gofio’r ffaith i’r gyllideb
ddrafft a'r setliad llywodraeth leol dros dro gael eu cyhoeddi ar 16 Rhagfyr.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 07/01/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2019