P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref
P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref
P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer
addysg yn y cartref
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Wendy Charles-Warner, ar ôl casglu cyfanswm o 5,447 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i dynnu'n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y
cartref.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae Llywodraeth
Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y
cartref. Mae hyn yn mandadu bod yn rhaid i rieni sy’n addysgu yn y cartref
gwrdd â’u hawdurdod lleol a chaniatáu i’r awdurdod lleol gyfweld â’u plant.
Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol arbenigol sy’n hawlio bod y canllawiau’n
anghyfreithlon ac mae’r deisebwyr yn gofyn bod y canllawiau’n cael eu tynnu’n ôl
i’w hailystyried yng ngoleuni’r cyngor hwnnw.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-923
Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! Yn
sgîl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig i’r
canllawiau a’r rheoliadau addysg yn y cartref yn parhau yn ystod tymor y Senedd
hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau, gan ddiolch i bawb sydd wedi
ymgysylltu â nhw ynghylch y mater hwn.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/12/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dyffryn Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2019