P-05-916 Adequate funding to protect the welfare of farm animals in Welsh slaughterhouses

P-05-916 Adequate funding to protect the welfare of farm animals in Welsh slaughterhouses

Wedi'i gwblhau

 

P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Grimsell, ar ôl casglu 110 o lofnodion ar-lein a 1,039 ar bapur, sef cyfanswm o 1,149 o lofnodion

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm adeg eu lladd yng Nghymru.

 

Diben Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 yw diogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) eu cymhwyso a'u gorfodi'n gywir, a rhaid bod digon o gyllid iddi allu cyflawni ei dyletswyddau o dan y Rheoliadau.

 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu dim ond £20,000 y flwyddyn i'r ASB ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd ar draws o leiaf 23 o ladd-dai yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn lladd degau o filiynau o anifeiliaid bob blwyddyn. Mae'r swm hwn yn druenus ac yn gwbl annigonol i dalu am yr holl waith gofynnol, gan gynnwys gwaith effeithiol i fonitro arferion lles, ymchwiliadau, gorfodaeth, cyngor cyfreithiol, a'r staff i wneud hynny. Mae faint sy'n cael ei ddarparu yn llawer is na'r hyn y mae'r ASB ei hun wedi dweud (mewn papurau bwrdd) y mae ei angen arni i gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â lles anifeiliaid adeg eu lladd.

 

Daw cryn dystiolaeth o ymchwiliadau cudd mewn lladd-dai mewn rhannau eraill o'r DU o dorri rheoliadau lles yn rheolaidd, a bod llawer o anifeiliaid yn dioddef camdriniaeth. Nid oes rheswm dros gredu nad yw'r risgiau hyn hefyd yn codi mewn lladd-dai yng Nghymru.

 

Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod rheoliadau lles yn drylwyr ac yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gyson. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ar fyrder ei chyllid i'r ASB at y diben hwn, a chynyddu'n sylweddol y cyllid i ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd yn ddi-oed.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y rhestr gyfredol o ddadleuon y gofynnwyd amdanynt a chytunodd i beidio â pharhau i geisio dadl ar ei adroddiad ar P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai a P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2020 ond ni lwyddwyd i’w drafod bryd hynny. O ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am eu cyfraniad.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/11/2019

Dogfennau