Rhaglen waith - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Rhaglen waith - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb o'i argymhellion (PDF, 113KB).

 

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 18 Medi 2019 i archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Cafodd y Pwyllgor ei ddiddymu’n dilyn dadl yn ar ei adroddiad ar 7 Hydref 2020.

 

Cynigiodd y Llywydd y dylid sefydlu'r Pwyllgor yn dilyn penderfyniad Comisiwn y Senedd ym mis Mehefin 2019 i beidio â chyflwyno deddfwriaeth yn ystod y Pumed Senedd mewn perthynas â Cham 2 o Raglen Diwygio'r Senedd.

 

Nodau y Pwyllgor oedd i:

  • gydgrynhoi’r sylfaen dystiolaeth bresennol ac ychwanegu ati,
  • hysbysu’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw, ac
  • amlinellu trywydd ar gyfer diwygio, a hynny er mwyn llywio ystyriaeth y pleidiau gwleidyddol o'u safbwyntiau polisi a'u maniffestos ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021.

 

Cwblhaodd y Pwyllgor yr ymchwiliadau canlynol:

 

Isod, ceir dogfennau eraill sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor.

Math o fusnes: Trefn y trafodion

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2019

Dogfennau