P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tracy Locke, ar ôl casglu cyfanswm o 121 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn ofyniad cyfreithiol i bob meddygfa teulu gael gwelyau triniaeth a theclynnau codi llydan y gellir eu haddasu at ddefnydd cleifion anabl, fel y gellir eu harchwilio pryd bynnag fo angen.

 

Cefais fy ngeni â Spinabifida ym 1970 ac, fel goroeswr y clefyd hwn, rwyf wedi fy mharlysu o uwchben y wast i lawr ac yn defnyddio cadair olwyn llawn amser. Yn 2017 cefais ddiagnosis o ganser y bledren cam 4. Ni all gael ei brofi'n gyfreithiol, ond rwy'n credu'n gryf pe bawn i wedi cael fy archwilio yn gynharach yn y blynyddoedd cynt yn fy meddygfa teulu ar wely triniaeth llydan y gellir ei addasu, efallai gyda chymorth teclyn codi, yna ni fyddai'r diagnosis o ganser wedi dod mor hwyr. Ers i mi fod yn edrych ar y mater hwn, mae nifer o fenywod anabl wedi siarad â mi ynglŷn â sut nad oes ganddynt fynediad cyfartal i brofion ceg y groth oherwydd y broblem hon hefyd. Yn aml, mae pobl yn credu bod cael mynediad i'r anabl yn golygu lifftiau a rampiau yn unig, ond, ym maes gofal iechyd, mae'n llawer mwy cymhleth. Beth am ymuno ynghyd i wneud mynediad i ofal iechyd yn gyfartal i bawb.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Preseli Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2019