P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Gethyn Mon Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 2,216 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei
gwrthwynebiad yn ôl ac i gefnogi'r cynnig bod Network Rail yn caniatáu i Reilffordd
Ganolog Ynys Môn gael ei haddasu yn llwybr amlddefnydd di-draffig 18 milltir o
Amlwch i'r Gaerwen. Gan nad yw wedi cael ei defnyddio am y 26 mlynedd diwethaf,
credwn na allai'r llinell gyflawni unrhyw bwrpas defnyddiol i gludo teithwyr na
chludo nwyddau rhwng y Gaerwen ac Amlwch. Yn lle hynny, byddai llwybr
amlddefnydd Lôn Las Môn ar agor i'w ddefnyddio gan deuluoedd, cerddwyr,
rhedwyr, reidwyr ceffylau a beicwyr hamdden, gan gynnwys y rhai â gofynion
mynediad i'r anabl.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Yn
wahanol i siroedd cyfagos Gwynedd a Chonwy, ychydig iawn o lwybrau di-draffig
sydd yna ar Ynys Môn. Er bod dau lwybr beicio cenedlaethol i'w cael ar yr ynys,
ffyrdd dosbarth B yw'r rhain ar y cyfan, gydag arwyddion yn nodi eu bod at
ddefnydd beicwyr ffordd profiadol yn bennaf. Mae 60 y cant o bobl nad ydynt yn
beicio yn nodi ofn traffig fel rheswm dros beidio â defnyddio beic wrth deithio
o le i le. Mae llwybr di-draffig fel Lôn Las Môn yn hanfodol i annog mwy o bobl
i feicio at ddibenion hamdden a thrafnidiaeth. At hynny, gan fod un digwyddiad
traffig ffordd bob dydd ar gyfartaledd yn cynnwys reidwyr ceffylau, byddai
reidwyr ceffylau ar Ynys Môn hefyd yn elwa ar lwybr di-draffig, i ffwrdd o
gerbydau sy'n symud yn gyflym ac sy'n peri perygl mawr i geffylau a'u reidwyr.
Ar ôl iddo gael ei gwblhau, byddai'r llwybr gwyrdd amlddefnydd yn goridor
pellter hir di-draffig o dde orllewin i ogledd ddwyrain yr ynys, gan ganiatáu i
ddefnyddwyr gysylltu â llwybr arfordirol Ynys Môn yn ogystal â llwybrau
cerdded, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau eraill. Byddai'r prosiect yn
arwain at fanteision economaidd i'r sector twristiaeth ar Ynys Môn hefyd. Mae
hen lwybr rheilffordd y Camel Trail yng Nghernyw yn brawf o hynny a thua'r un
hyd â llwybr arfaethedig Lôn Las Môn, sef 17.3 milltir. Yn 2015, gwnaeth
defnyddwyr y Camel Trail wario tua £6.7 miliwn a chynhyrchu tua £13 miliwn o
drosiant busnes. Gyda gordewdra, materion iechyd meddwl a lefelau diabetes math
2 yn cynyddu ar raddfa frawychus, byddai Lôn Las Môn yn caniatáu i'r cyhoedd
ymarfer corff mewn amgylchedd di-draffig, i ffwrdd o allyriadau cerbydau a
llygryddion, ac ar dir sy'n hygyrch i'r rheini ag anableddau ac anghenion
mynediad. Byddai manteision sylweddol yn deillio o'r prosiect hwn i breswylwyr,
busnesau ac ymwelwyr, ac yn ddi-os byddent yn gwella ansawdd bywyd pawb ar Ynys
Môn.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 29/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor nifer o ddiweddariadau ar y ddeiseb hon, ac yng ngoleuni’r ymatebion
a ddaeth i law, gan gynnwys awydd Llywodraeth Cymru i gynnal datrysiad
rheilffordd a nodwyd gan y Gweinidog a Network Rail, a’r trafodaethau parhaus
ynghylch prydles y llinell ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth, mae’n annhebygol y
gellir cyflawni amcanion y deisebwyr.
Felly
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebwyr am eu
cyfraniadau i’r broses.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Ynys Mon
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2019
Dogfennau