NDM7155 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod l - Ddefnyddio Plastigau Untro

NDM7155 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod l - Ddefnyddio Plastigau Untro

NDM7155 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff plastig;

b) cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;

c) cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;

d) pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.

 

Cefnogwyr

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

David Rees (Aberafan)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Hefin David (Caerffili)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Rhianon Passmore (Islwyn)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021

Angen Penderfyniad: 16 Hyd 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd