P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd
P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd
P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Andrew Evans, ar ôl casglu 2,224 o lofnodion ar-lein a nifer i’w gadarnhau ar
bapur, sef cyfanswm o 2,224 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
cynlluniau i adeiladu llosgydd newydd yn CF3 ar Newlands Road, Gwynllŵg,
Caerdydd. Mae hyn yn agos iawn i gartrefi ac ysgolion. Er enghraifft, nid yw
ond 500 metr i ffwrdd o Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae llawer o breswylfeydd ac
ysgolion eraill yn CF3 hefyd ymhell o fewn hanner milltir iddo.
Bydd
y llosgydd arfaethedig yn llosgi 200,000 tunnell o wastraff diwydiannol y
flwyddyn a bydd yn gweithio 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Y bwriad yw ei
adeiladu mor gynnar â 2020/21.
Caiff
y gwastraff diwydiannol sydd i'w losgi ei gludo i'r safle arfaethedig ar 80 o
lorïau bob dydd, gyda phob un yn cario 20 tunnell o wastraff. Bydd hefyd angen
cludo ymaith y lludw gwenwynig y bydd y llosgydd yn ei greu.
Bydd
y safle yr un maint â 1.5 cae rygbi, a bydd y prif adeilad dros 40 metr o
uchder; bydd corn y simnai dros 70 metr o uchder.
Rydym
o'r farn nad yw trigolion CF3 am gael llosgydd yn eu cymuned. Credwn y bydd yn
creu sŵn, llygredd aer a thraffig, ac na fydd yn dda i iechyd pobl sy'n
byw yng nghymuned CF3.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r wybodaeth bellach a gafwyd a nodi'r ffaith bod
cais cynllunio bellach yn cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio. O
ystyried y broses gynllunio ffurfiol ar gyfer ystyried ceisiadau am
Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, cytunodd y Pwyllgor nad oes camau
pellach y gall eu cymryd ar yr adeg hon. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/05/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/03/2020