Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018-19 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2020-21

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018-19 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2020-21

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Cynulliad, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Cynulliad sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gosododd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru eu hamcangyfrif ar gyfer 2020-21 (PDF, 1MB) gerbron y Cynulliad ym mis Hydref 2019.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (PDF, 2MB) ym mis Rhagfyr 2019.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2019

Dogfennau