P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

Wedi'i gwblhau

 

P-05-906  Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON, ar ôl casglu cyfanswm o 1,858 lofnodion ar-lein a 11,407 ar bapur, sef cyfanswm o 13,265 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru, sef y prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, i atal cynnig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau Ward Sam Davies, ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau yn Ysbyty y Barri, ac i sicrhau bod Ysbyty y Barri yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i'r cyhoedd yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​Mae Ward Sam Davies yn ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys adsefydlu strôc, adsefydlu orthopedig, ac adsefydlu meddygol ymhlith gwasanaethau iechyd allweddol eraill. Mae gan y ward ddau wely seibiant hefyd.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod Ward Sam Davies wedi aros ar agor a bod y deisebwyr yn fodlon â'r sefyllfa bresennol.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

                                  

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2019