P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Wedi'i gwblhau

 

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Adams and Robert Bevan, ar ôl casglu cyfanswm o 387 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad barnwrol cwbl annibynnol i reoli a gweithredu rhaglen GIG De Cymru ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf a’i heffaith ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl yn Rhondda Cynon Taf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​Mae pryder mawr ymhlith y cyhoedd ynghylch trosglwyddo gwasanaethau o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'r trosglwyddiadau hyn wedi cael effaith fawr ar breswylwyr Rhondda Cynon Taf. Mae preswylwyr am i'r gwasanaethau ddychwelyd.

Poblogaeth Rhondda Cynon Taf yw 235,000, gyda datblygiadau tai mawr yn codi yn ne'r fwrdeistref ac yn awdurdod cyfagos Caerdydd, sy'n agos at Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd y datblygiadau hyn yn cael effaith ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae preswylwyr yn mynegi pryderon yn barhaus am fynediad at y gwasanaethau hyn ers i rai o'r newidiadau ddigwydd. Mae'r materion yn cynnwys amseroedd teithio yn achos triniaeth frys, gorfod mynd i glinigau yn rheolaidd a chysylltiadau trafnidiaeth gwael i deuluoedd a ffrindiau ymweld â chleifion, a dim ond rhai o'r sylwadau a wnaed yw'r rhain.

 

Y prif feysydd y mae preswylwyr yn pryderu amdanynt yw:

·                 Mamolaeth - sydd eisoes yn destun ymchwiliad

·                 Pediatreg

·                 Uned Gofal Babanod Arbennig

·                 Adran Damweiniau ac Achosion Brys

·                 Pobl hŷn yn baglu ac yn cwympo, gan arwain at farw yn yr ysbyty

·                 Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau

·                 Gwasanaethau Cardiaidd

·                 Effaith ar wasanaethau meddygon teulu/gofal sylfaenol lle mae meddygfeydd meddygon teulu yn cael eu rheoli gan feddygon locwm yn bennaf, sy'n sefyllfa gronig yn y Rhondda yn benodol – methu â recriwtio meddygon teulu

 

A picture of a stethoscope

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/06/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Gan fod y ddeiseb yn galw am ymchwiliad barnwrol annibynnol i’r broses o reoli Rhaglen De Cymru a’i rhoi ar waith, a bod hynny wedi'i ddiystyru'n benodol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – ac yn sgil y penderfyniad diweddar i gadw'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg – cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y rhai a gymerodd ran ar y ffaith bod yr ymgyrch i gadw gwasanaethau’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty wedi llwyddo.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2019