P-05-904 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

P-05-904 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-904 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Linda Joyce-Jones, Kirsty John and Jayne Dendle, ar ôl casglu cyfanswm o 849 lofnodion ar-lein a 800 ar bapur, sef cyfanswm o 1,649 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru.

 

Ar 17 Gorffennaf 2018, dywedodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru:

 

"Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol.  Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru."

 

Mae syrcas yn ffurf ar gelf ynddo'i hun. Er bod syrcasau wedi'u cysylltu'n gryf â'r defnydd o anifeiliaid yn y gorffennol, mae'n amlwg bod chwaeth y cyhoedd mewn materion o'r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dangosir hyn gan nifer cynyddol y syrcasau sy'n cynnwys pobl yn unig, ynghyd â llwyddiant y syrcasau hyn. Tra bod y sioeau hyn yn aml yn cael eu perfformio o flaen cynulleidfaoedd llawn heb unrhyw brotestwyr tu allan i'r babell, mae'n deg dweud bod y gwrthwyneb yn wir o ran y syrcasau a'r sioeau teithiol sy'n parhau i ddefnyddio anifeiliaid, hyd yn oed y rhai sy'n defnyddio anifeiliaid nad ydynt wedi'u diffinio fel anifeiliaid gwyllt.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​ Mae nifer o wladwriaethau a gwledydd yn gwahardd pob anifail mewn syrcasau a sioeau teithiol. Disgwylir i'r Eidal (sydd â chysylltiad hanesyddol â'r diwydiant syrcas anifeiliaid) wneud hyn flwyddyn nesaf. Mae'r pryderon o ran lles sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, fel teithio, llwytho a dadlwytho parhaus a gorfodi anifeiliaid i berfformio, ynghyd ag amgylcheddau cymdeithasol amhriodol ac annaturiol, yn berthnasol i bob anifail a ddefnyddir yn y modd hwn.

 

Dylid gwahardd defnyddio anifeiliaid mewn unrhyw sioe deithiol ar gyfer adloniant pur ac i wneud arian i bobl fel menter fasnachol.  Yn anffodus, y llynedd, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y byddai Llywodraeth Cymru yn trwyddedu arddangosfeydd teithiol sy'n cynnwys anifeiliaid.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2019