Taliadau cadw yn y sector adeiladu

Taliadau cadw yn y sector adeiladu

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad ar y cyd i daliadau cadw yn y diwydiant adeiladu.

Mae'r system taliadau cadw yn rhan o’r sector adeiladu ers dros 100 mlynedd ac mae'n arfer cytundebol a gyflwynwyd yn wreiddiol i ddiogeli rhag gwaith diffygiol neu rhag ansolfedd cwmnïau adeiladu.

Mae'r rhan fwyaf o gontractau ac is-gontractau adeiladu’n rhoi hawl i'r parti cyflogi neu'r cleient neu gontractwr gadw canran, tua 5 y cant fel arfer, o werth y gwaith a wneir nes ei gwblhau neu y cywirir diffygion.

Mae ymchwil gan Lywodraeth y DU yn dangos bod talu symiau a ddargedwir yn hwyr, os o gwbl, a hynny’n ddigyfiawnhad, yn broblem fawr i rai contractwyr. Dangosodd yr ymchwil hefyd fod oedi wrth dalu symiau a ddargedwir yn dod yn fwy arwyddocaol ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.

Archwiliodd y Pwyllgorau y defnydd o ddaliadau yng Nghymru, a'r DU yn ehangach. Ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:

  • i ba raddau y mae taliadau cadw’n broblem i gwmnïau â’u canolfan a/neu'n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys sut y gallai problemau fod yn wahanol drwy'r gadwyn gyflenwi;
  • a oes manteision i’r defnydd o daliadau cadw;
  • dewisiadau amgen i’r defnydd o daliadau cadw a pha rôl a allai fod gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu a darparu'r dewisiadau amgen hynny.

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ysgrifennodd y pwyllgorau ar y cyd at y Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

 

Fideo

1. Yr Athro Rudi Klein, Bargyfreithiwr, Pennaeth y Grŵp Contractwyr Peirianneg

Arbenigol (SEC)

Catherine Griffith-Williams, Swyddog Gweithredol Cenedlaethol Cymru, Grŵp

SEC

Kyle Spiller MCIOB, Cyfarwyddwr SAM Drylines Ltd (yn cynrychioli Sefydliad

Adeiladu Siartredig Cymru)

Ifan Glyn, Uwch-gyfarwyddwr Hyb/Cyfarwyddwr Cymru, Ffederasiwn y Meistr

Adeiladwyr

 

17 Hydref 2019

Sesiwn Dystiolaeth 1

 

Gwyliwch Sesiwn dystiolaeth 1 ar senedd,tv

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2019

Dogfennau