P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor
P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor
P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cllr Russell Spencer-Downe, ar ôl casglu cyfanswm o 58 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i ddilyn y gyfraith yn Lloegr sy'n ymgorffori yn y
gyfraith hawl preswylwyr, blogwyr a newyddiadurwyr i adrodd, blogio, trydar a
ffilmio cyfarfodydd cyngor i sicrhau natur agored a thryloywder. Nid yw hyn
wedi digwydd yng Nghymru, a dylid ei gyflwyno er mwyn caniatáu yr un fath yng
Nghymru.
Dylai'r gofyniad hwn ganiatáu i'r cyhoedd, fel
arsylwyr cyfrifol, recordio neu ffilmio cyfarfodydd o'r fath heb fod angen
caniatâd ymlaen llaw ac i ailddefnyddio'r deunydd yn rhydd er mwyn cyfathrebu'n
uniongyrchol ac yn ehangach ag etholwyr.
Gwnaeth Lloegr gyflwyno'r gyfraith hon a rhoi'r
hawliau i ni yn 2014, a dylai Cymru gael yr un hawliau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod canllawiau cyfathrebu ar gyfer cynghorau tref a
chymuned wedi'u cyhoeddi erbyn hyn a’u bod yn amlinellu'r gofynion statudol a’r
cyngor ynghylch arfer da. Gan hynny, a chan fod tymor y Senedd hon bron â dod i
ben, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/10/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/09/2019