Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019

Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor arfaethedig - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019

Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio Atodlen 7 i Ddeddf 2006 , ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael ei gymeradwyo yn gyntaf gan y Cynulliad a dau Dŷ Senedd y DU.

Mae Rheol Sefydlog 25 yn nodi'r weithdrefn y dylid ei dilyn mewn perthynas â thrafod Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Bydd Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 yn ychwanegu at yr eithriadau ym mharagraffau 9(6) a 10(2) o Atodlen 7B i Ddeddf 2006: “electoral registration officers (within the meaning given in section 8 of the Representation of the People Act 1983).” Mae hefyd yn darparu ar gyfer sut y mae'r diwygiadau hyn yn effeithio ar weithrediad erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018.

Cafodd y Gorchymyn arfaethedig ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 16 Gorffennaf 2019. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Gorchymyn arfaethedig at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'w ystyried yn fanwl. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 30 Medi 2019.

Yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Gorchymyn arfaethedig, cafodd y Gorchymyn drafft (Saesneg yn unig) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2019. Cymeradwyodd y Senedd y Gorchymyn drafft yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd 2019.

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2019

Dogfennau