P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)
P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)
P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau
Newydd)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Mark Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 116 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae GIG Lloegr wedi cymryd y "cam pwysig" i
sgrinio iechyd meddwl tadau a'u cefnogi yn hynny o beth lle mae ar eu
partneriaid salwch meddwl amenedigol.
Hunanladdiad yw'r achos marwolaethau mwyaf ymhlith dynion
o dan 50 oed, a chyda dadl newydd yn Senedd y DU, teimlwn y dylai Llywodraeth
Cymru fod yn dilyn yr un trywydd ac ariannu iechyd meddwl tadau newydd
oherwydd, heb y gefnogaeth hon, gallai effeithio ar famau ac ar ddatblygiad y
plant.
Yn 2015, canfu adroddiad Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Geni Plant, "Dads in Distress", fod 38 y cant o dadau yn poeni am eu
hiechyd meddwl eu hunain a bod 73 y cant yn poeni am iechyd meddwl eu
partneriaid.
Mae 1 o bob 10 tad
yn dioddef iselder ôl-enedigol, sy'n ymddangos yn wahanol, mwy o ddicter, yfed,
camddefnyddio sylweddau ac, wrth gwrs, mae tadau'n ei chael hi'n anodd bondio
â'u plant hefyd.
Mae'r pwysau ar dadau yn wahanol i'r hyn welwyd
flynyddoedd yn ôl, mae cyplau o'r un rhyw, ac mae angen cefnogaeth ar dadau
sy'n aros gartref.
Oherwydd y diffyg cefnogaeth a'r diffyg sgrinio, mae
tadau yn aml yn troi at wasanaethau eraill pan fydd hi'n argyfwng ar ôl i'r
berthynas ddod i ben, gwaetha'r modd.
Mae arbrawf Wyneb Llonydd gyda thadau yn dangos
pwysigrwydd cefnogi tadau er lles eu hiechyd meddwl oherwydd pwysigrwydd y 1001
diwrnod cyntaf, sef y cyfnod cyn geni ac ôl-enedigol.
O gefnogi pob rhiant, bydd canlyniadau llawer gwell i'r
teulu cyfan.
Hoffem weld Cymru yn dilyn cynllun hirdymor newydd GIG
Lloegr trwy gynnwys tadau
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod
gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth
allweddol yn y Cynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n cynnwys
gwaith yn ymwneud â chefnogi tadau. Gan fod y deisebydd yn fodlon â’r cynnydd a
wnaed, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am
gyflwyno’r mater.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/10/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/09/2019