P-05-900 Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

P-05-900 Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

Wedi'i gwblhau

 

P-05-900 Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Reann Jenkins, ar ôl casglu cyfanswm o 121 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu'r ffordd y mae rhieni a theuluoedd, yn enwedig y rheini sydd â phlant anabl, yn cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y GIG, ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mae teuluoedd yn cael eu bygwth ar gam a'u trin yn wael gan weithwyr proffesiynol fel meddygon, nyrsys, y gwasanaethau cymdeithasol a staff mewn ysgolion. Mae'n rhaid i hyn ddod i ben.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ddweud bod yr aelodau’n gofidio am ei phrofiadau gyda’r gwasanaethau cyhoeddus, a:

 

· gofyn a yw wedi gofyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i'w phryderon ynghylch diffygion yn y gweithdrefnau cwyno;

 

·dweud wrthi nad oes rhyw lawer y gall ei wneud i fwrw ymlaen â deisebau sy'n ymwneud ag achosion ac amgylchiadau unigol a bod y Pwyllgor, felly, wedi cytuno i gau'r ddeiseb; ac

 

·awgrymu y dylai’r deisebydd, os yw am weld newidiadau penodol i drefn gwyno’r sector cyhoeddus, ystyried trafod y rhain â’i chynrychiolwyr lleol neu gyflwyno deiseb arall.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/10/19

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2019