Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Mae Penderfyniad y Bwrdd Taliadau yn amlinellu y bydd
Aelodau’r Cynulliad yn cael eu cofrestru’n awtomatig yng Nghynllun Pensiwn
Aelodau’r Cynulliad (heblaw eu bod yn dewis peidio).
Caiff y Cynllun
Pensiwn ei hun ei reoli gan Fwrdd Pensiynau’r Cynllun.
Y Bwrdd Taliadau
sy’n gyfrifol am reolau’r Cynllun ac am bennu lefel buddion yr Aelodau, a’u
ffurf.
Ymgynghori
Mae’r Bwrdd
Taliadau yn cynnig gwneud nifer o newidiadau i Reolau’r Cynllun Pensiwn er mwyn
sicrhau cydymffurfiad parhaus â’r gofynion gwahaniaethu ar sail oedran mewn
perthynas ag aelodau sy’n 75 oed a hŷn. Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnig rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Aelodau hynny sy’n dioddef salwch difrifol, o ran ar ba
ffurf y gallant dynnu eu pensiwn.
Ceir manylion llawn
am gynigion y Bwrdd yn y ddogfen
ymgynghori atodedig.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/07/2019