Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Mae hwn yn fater lle y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynwyd y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 11 Mehefin 2019.

 

Mae'r Bil yn ceisio sicrhau bod biliau ardrethi annomestig yn adlewyrchu gwerth rhent presennol eiddo'n fwy cywir drwy ddwyn ymlaen yr ymarfer ailbrisio nesaf i 1 Ebrill 2021.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 19 Mehefin 2019 (PDF, 109KB).

 

Methodd Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) â phasio yn Senedd y DU cyn i’r Senedd gael ei haddoedi ar 9 Medi 2019. Golyga hyn fod hynt y Bil wedi dod i ben ac nad oes angen y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol bellach.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2019

Angen Penderfyniad: 21 Gorff 2019 Yn ôl Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd