Datgarboneiddio trafnidiaeth

Datgarboneiddio trafnidiaeth

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i ddatgarboneiddio trafnidiaeth

Crynodeb

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu Strategaeth Drafnidiaeth nesaf Cymru.

Disgwylir i'r Strategaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi ym mis Mai 2020 a bydd yn cynnwys ffocws allweddol ar symud i ddulliau trafnidiaeth carbon isel i gyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru a lleihau'r nifer cynyddol o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddylanwadu ar ddatblygiad y Strategaeth.

Cylch gorchwyl

Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y canlynol:

  • A yw'r targedau, y polisïau a'r cynigion ar gyfer lleihau allyriadau trafnidiaeth (a nodir yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel) yn gyraeddadwy ac yn ddigon uchelgeisiol?
  • A yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth yn ddigon arloesol, yn enwedig o ran hyrwyddo technolegau newydd?  
  • Pa gamau sydd eu hangen, a chan bwy, i gyflawni'r targedau, y polisïau a’r amcanion?
  • Sut ddylai Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru adlewyrchu'r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/07/2019

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau