Ffordd Liniaru yr M4
Ffordd Liniaru yr M4
Yn dilyn Datganiad
y Prif Weinidog ar 4 Mehefin 2019 yn hysbysu na fydd Ffordd Liniaru yr M4 yn
mynd yn ei blaen, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion am y costau hyd
yma sy’n gysylltiedig â’r prosiect, sydd bellach yn £114m.
Cafodd llawer o
gwestiynau eu gofyn am beth a gafodd ei wario gyda’r arian hwn a ph’un a yw’r
gwariant yn cynrychioli gwerth am arian.
Edrychodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ar y gwariant hwn gyda Llywodraeth Cymru ym mis
Gorffennaf 2019. Yn dilyn cyfnewid gohebiaeth, cytunodd y Pwyllgor ar 11
Tachwedd 2019 y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi,
Seilwaith a Sgiliau yn mynegi barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw waith y
mae’r Pwyllgor hwnnw’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn Adolygiad Burns
Sesiwn
Dystiolaeth |
Dyddiad,
Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1.
Llywodraeth Cymru Andrew
Slade |
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/06/2019
Dogfennau