NDM7071 Dadl Plaid Brexit - Gadael yr Undeb Ewropeaidd
NDM7071 Dadl Plaid Brexit - Gadael yr Undeb Ewropeaidd
NDM7071 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb
Ewropeaidd.
2. Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth
2019, er gwaethaf sawl addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o
ASau wedi pleidleisio i gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad
hwnnw.
3. Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar
ôl 31 Hydref 2019.
4. Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd,
dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y
DU.
5. Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd
heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod yr UE, o leiaf:
a) yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a
b) yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd
Iwerddon.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn gresynu nad yw'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr
Undeb Ewropeaidd eto.
3. Yn credu y dylid rhoi canlyniad y refferendwm ar
waith.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 19 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Caroline Jones AS