NDM7066 Dadl Plaid Cymru - Dewisiadau amgen i ffordd liniaru'r M4
NDM7066 Dadl Plaid Cymru - Dewisiadau amgen i ffordd liniaru'r M4
NDM7066 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am i'r buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar
gyfer cynnig ffordd liniaru'r M4, ac a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei
glustnodi o'r newydd tuag at ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer
rhwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n
cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch
Casnewydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith
cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi’r penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed
gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth 4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4
o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd
gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr
Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar
rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi
ehangach.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac
ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system
drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
Datganiad
Llafar: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd
Datganiad
Ysgrifenedig: M4 Casnewydd: Camau Nesaf
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth yr £114 miliwn o arian trethdalwyr Cymru
sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynigion ffordd liniaru'r M4.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar
ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd ar yr M4.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ar frys beth yw ei
chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch
Casnewydd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 12 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS