P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor
P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor
P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr)
(Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alanna Jones, ar ôl casglu 158
o lofnodion ar-lein a 141 ar bapur, sef cyfanswm o 299 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ddiwygio geiriad presennol Rheoliadau Addysg (Cymorth i
Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 ("y Rheoliadau"). Rydym yn galw ar y Cynulliad
Cenedlaethol i wneud y diwygiadau i'r Rheoliadau i fynd i'r afael â chyfyngiad
presennol Rheoliad 6, Amod 5, sy'n atal myfyrwyr o Gymru rhag cael mynediad at
gyllid myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU lle mae lleoliad
yr astudio ar eu campws tramor. Rydym ni'n ystyried y gellid ei gyflawni, naill
ai drwy:
ehangu'r meini prawf yn Amod 5 i gynnwys cyrsiau
a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch yn y DU naill ai yn eu campysau yn y DU
neu dramor; neu
diwygio Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan
sefydliadau addysg uwch sy'n cynnig cyrsiau dynodedig ac i gynnwys Athrofa
Prifysgol Llundain ym Mharis ar y rhestr o sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau
dynodedig, gan ddefnyddio'ch disgresiwn o dan Reoliad 8.
Diwygiad Arfaethedig:
Opsiwn 1
"Condition 5
At least half of the teaching and supervision
which comprise the course is provided in the United Kingdom or at any campus of
a United Kingdom higher education institution located outside of the United
Kingdom".
Opsiwn 2
"Condition 5
At least half of the teaching and supervision
which comprise the course is provided in the United Kingdom. This condition
shall apply, unless the course has been deemed to be treated as a designated
course pursuant to Regulation 8(1) or 8(2)."
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
fabwysiadu'r newidiadau arfaethedig fel y gall myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud
cais am gyrsiau mewn sefydliadau fel Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis gael
eu hystyried fel "myfyrwyr cymwys" at ddibenion cael cymorth i
fyfyrwyr. Mae Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis yn cynnig cyrsiau addysg
uwch mewn ieithoedd modern, ble mae'r addysgu a'r goruchwylio yn cael ei gynnal
yn bennaf ym Mharis. Serch hynny, caiff myfyrwyr eu haddysgu gan gyflogeion
Prifysgol Llundain a'i phartner cydweithredol, Queen Mary, Prifysgol Llundain.
Oni wneir newid i eiriad presennol y Rheoliadau,
bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i ddioddef anfantais anghyfiawn wrth wneud cais
am gyrsiau mewn sefydliadau penodol yn y DU. Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i wneud y newid hwn gan nad oes cyfyngiad tebyg ar draws
rhannau eraill o'r DU. Os na chymerir unrhyw gamau, gall y Rheoliadau barhau i
fod yn rhwystr i fyfyrwyr sy'n gobeithio gwneud cais am gyrsiau yn Athrofa
Prifysgol Llundain ym Mharis.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Rhwng mis Medi 2018 a mis Chwefror 2019 cawsom
negeseuon anghyson ynglŷn â sefyllfa Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis
a chafodd myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr wybodaeth anghyson am eu
cymhwysedd. Cymerodd Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis y camau canlynol i
fynd i'r afael â hyn:
Cysylltwyd â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
Cysylltwyd â Chyllid Myfyrwyr Cymru
Cysylltwyd ag adran 'Dynodi' Llywodraeth Cymru.
Mae copïau o'r ohebiaeth berthnasol ar gael ar
gais.
Pan eglurwyd y sefyllfa o'r diwedd, ym mis
Chwefror, cafodd ymgeiswyr o Gymru wybod gan Athrofa Prifysgol Llundain ym
Mharis nad oeddent yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ar gyfer y rhaglenni hyn,
ac achosodd hyn ofid sylweddol iddynt. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i ystyried ein pryderon fel mater o flaenoriaeth.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019