NDM7059 Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd
NDM7059 Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd
NDM7059 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei
gefnogaeth ddiamwys i refferendwm cadarnhau ar
ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y Deyrnas Unedig
yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar
y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn cydnabod ei bod bron yn dair blynedd ers i bobl
Cymru bleidleisio i adael yr UE ac nad ydym yn nes at gyflawni eu dymuniadau.
2. Yn gresynu fod Aelodau Seneddol o'r ddwy brif blaid
wedi ceisio atal y DU rhag gadael yr UE, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y
DU wedi gwario £9miliwn ar daflen a oedd yn addo cadw at ganlyniadau'r
refferendwm a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol a etholwyd yn 2017 yn sefyll ar
sail y maniffestos a oedd yn addo cyflawni BREXIT.
3. Yn galw ar Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i
gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE ddim hwyrach na 31 Hydref 2019.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid gweithredu ar ganlyniadau refferenda
bob amser.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ar ôl 'barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd' rhoi 'ac yn
dweud unwaith eto y byddai Brexit heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus a chwbl
annerbyniol.'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 5 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS