NDM7058 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM7058 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM7058 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers
i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael
ei roi mewn mesurau arbennig.
2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym
Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y
Gweinidog Iechyd cyfredol.
3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau
iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er
gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag
unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb
am fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr dros y pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd
cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant
sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.
Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid
statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar
ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a
Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 5 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS