Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)
Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad y Senedd i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd
fel arfer.
Cyflwynwyd Bil
y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar
1 Mai 2019.
Mae'r Bil yn ceisio diwygio Deddf y Cyfrifiad 1920 a Deddf
y Cyfrifiad (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn dileu'r gosb am beidio ag ymateb i
gwestiynau newydd yn y cyfrifiad sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a
hunaniaeth rhywedd.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 15
Mai 2019 (PDF, 69KB).
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad
(PDF, 90KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ddydd Llun 24 Mehefin
2019.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad (PDF, 94KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 24 Mehefin 2019.
Pleidleisiodd y Senedd i roi cydsyniad i'r Bil ar 2
Gorffennaf 2019.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019
Dogfennau