P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-879 - Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Annie Harris, ar ôl casglu cyfanswm o 1,947 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​Pan fyddaf yn gweithio i Mental - Y Podcast i Ddat-stigmateiddio Iechyd Meddwl, rwy'n pryderu'n barhaus am ddiffyg addysg sy'n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ysgolion. Gydag un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl bob blwyddyn yn ôl yr elusen Mind, ymddengys bod hwn yn fwlch gwirioneddol a sylweddol yn ein system addysg.

 

YSTADEGAU ALLWEDDOL:

Mae dros hanner o bob salwch meddwl yn dechrau cyn bod unigolyn yn 14 mlwydd oed, ac mae 75% o bob salwch meddwl wedi datblygu erbyn y bydd unigolyn yn 18 mlwydd oed;

Canfu arolwg yn 2015 fod 13% o oedolion (16 oed a hŷn) sy'n byw yng Nghymru wedi cael triniaeth am broblem iechyd meddwl, sef cynnydd o 12% o'i gymharu â'r ffigur yn 2014;

Mae cost cyffredinol problemau iechyd meddwl yng Nghymru oddeutu £7.2 biliwn y flwyddyn.

Mae'r ystadegau'n syfrdanol, ond er bod pwnc cyfan yng nghwricwlwm Cymru yn canolbwyntio ar ein hiechyd corfforol ar ffurf y pwnc Addysg Gorfforol, nid yw ein pobl ifanc yn dysgu dim am yr afiechydon meddwl mwyaf cyffredin hyd yn oed.

Mae hyn, nid yn unig yn golygu eu bod yn amharod ac yn agored pan ddaw'n fater o ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain, ond hefyd mae'n gosod cynsail nad yw Iechyd Meddwl yn cael ei drafod. Mae hyn yn plannu hadyn o stigma sy'n aros gyda llawer drwy gydol eu hoes.

 

Rydym am glywed barn y rhai sydd mewn grym ynghylch cynllun ehangach i wella bywydau pobl ifanc Cymru.

 

YN YMGYRCHU DROS:

Fod addysg iechyd meddwl yn dod yn addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, heb ychwanegu dim arholiadau / gwaith cartref ar y pwnc hwn.

Y gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at gwnselydd cymwys drwy ei ysgol.

Fod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant Iechyd Meddwl i'w staff.

 

Llofnodwch ein deiseb i'n helpu i ddod gam yn nes at wneud y ceisiadau hyn yn realiti i blant Cymru, a chan felly ddiogelu iechyd cenedlaethau'r dyfodol.

 

Diolch am ddarllen hwn, Annie Harris

Dysgwch ragor am y ddeiseb hon a'r tîm a'i cyflwynodd yn mentalpodcast.co.uk/petition

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​1. Ffynhonnell: Murphy M a Fonagy P (2012). Problemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc. Yn: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2012. Llundain: Yr Adran Iechyd.

2. a 3. Ffynhonnell: Y Sefydliad Iechyd Meddwl. Iechyd Meddwl yng Nghymru, Ffeithiau Sylfaenol 2016 (https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/FF16%20Wales%20WELSH.pdf)

 

Gweler https://www.change.org/p/get-mental-health-education-on-the-school-curriculum-mentalpetition-join-me-and-over-100-000-others i glywed am y diddordeb cenedlaethol yn y ddeiseb hon. Cyflwynwyd y ddeiseb i 10 Stryd Downing ar 3 Hydref 2018​​

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn sgil y gwaith craffu a wnaed ar y materion hyn drwy ymchwiliad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y flaenoriaeth gynyddol a roddir i iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd, a'r diffyg ymateb gan y deisebydd yn ddiweddar. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/05/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2019