P-05-878 Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni

P-05-878 Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni

Wedi'i gwblhau

 

P-05-878 - Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Burton, ar ôl casglu cyfanswm o 91 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i annog pob archfarchnad a manwerthwr i osod drysau ar eu holl oergelloedd a rhewgelloedd, i leihau ein hôl troed carbon cenedlaethol, i leihau'r defnydd o drydan ac i baratoi ar gyfer Cymru fwy gwyrdd.

 

Mae Supervalu, manwerthwr o Iwerddon, yn amcangyfrif y byddai oergell gyffredin 2.5 metr o gyfaint, ag iddi ddrysau, yn arbed 10,000kWh y flwyddyn yn arferol, o'i gymharu ag oergelloedd nad oes ganddynt ddrysau [1].

 

Mae hyn yn cyfateb i 7 tunnell o nwy tŷ gwydr carbon deuocsid, a fyddai'n ddigon i bweru o leiaf ddau gartref â thrydan am flwyddyn! Byddai'r pŵer a arbedir o un oergell sydd â drysau yn ddigon i bweru dau gartref! [2]

 

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2016 [3] (Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd) yn rhoi "pwerau i Weinidogion Cymru bennu targedau statudol o ran lleihau allyriadau, gan gynnwys o leiaf 80% o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050, ac i gyflwyno cyllidebau carbon er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hynny.  Mae hyn yn hanfodol yng nghyd-destun ein hymrwymiadau Prydeinig ac Ewropeaidd ac yn gosod llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i fusnesau a buddsoddwyr."

 

Mae hwn yn gyfle gwych i Lywodraeth Cymru weithio tuag at y nod hwn a chyfrannu at y gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050. Gallai'r Ddeddf hon arwain at ganlyniadau enfawr yn genedlaethol ac yn fyd-eang! Beth am i Gymru fod yn wlad flaenllaw ar y llwyfan rhyngwladol, gydag amgylchedd "iach a chydnerth" [3] drwy gau'r drws yn glep ar wastraffu ynni, a hynny ar gyfer y genhedlaeth hon a'r genhedlaeth nesaf!

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Dywed yr Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol mewn adroddiad 'iasol' [4], pe bai manwerthwyr yn rhoi drysau ar oergelloedd, byddent yn lleihau eu defnydd o ynni gan gymaint â 33 y cant, a byddai bil ynni'r DU 1 y cant yn llai pe bai'r pum brif archfarchnad yn gosod drysau ar eu hoergelloedd.

 

Mae clymblaid o gyrff anllywodraethol Ewropeaidd wedi cyfeirio at adroddiad, y gofynnodd y Comisiwn Ewropeaidd amdano, sy'n datgan y byddai hyd at 58TWh o bŵer yn cael ei arbed erbyn 2030 ledled Ewrop pe bai archfarchnadoedd a manwerthwyr yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd a'u rhewgelloedd. Mae hyn yn cyfateb i 25 safle pŵer glo o faint canolig. Fe wnaethant ddweud hefyd:" the step to install doors on supermarket fridges and freezers is a no-brainer. Retailers will benefit from lower energy bills, a more climate conscious image, and ultimately, happier consumers. It's a win-win for everyone, especially for the environment. Because of climate change, we simply can't afford to be so careless with energy any longer." [5]

 

[1] Tîm Gofal Cwsmer, Adran Cyfathrebu, SuperValu. Dydd Iau 7 Medi 2017. Mae SuperValu, y manwerthwr o Iwerddon, yn dyfynnu'r ffigurau hyn yn uniongyrchol gan wneuthurwr ei oergelloedd.

 

[2] Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan Ofgem. Gwerthoedd Defnydd Domestig Arferol. Ar gael o: https://www.ofgem.gov.uk/gas/retail-market/monitoring-data-and-statistics/typical-domestic-consumption-values [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019]

 

[3] Llywodraeth Cymru. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 http://gov.wales/topics/environmentcountryside/consmanagement/natural-resources-management/environment-act/?skip=1&lang=cy   [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019]

 

[4] Yr Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol, Chilling Facts VI: Closing the door on HFCs. 2014; tudalen 14. Ar gael o: https://eia-international.org/report/the-chilling-facts-vi-closing-the-door-on-hfcs/  [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019].

 

[5] Coolproducts, Pam nad oes gan oergelloedd archfarchnadoedd ddrysau? Ar gael o: https://www.coolproducts.eu/news/why-dont-supermarket-fridges-have-doors  [Mynediad - dydd Sadwrn 12 Ionawr 2019]

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/12/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

O ystyried yr ymatebion a gafwyd gan archfarchnadoedd mawr, a'r cyfyngiadau ar bwerau Llywodraeth Cymru i fynnu gweithredu yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail na all gymryd camau gweithredu ystyrlon pellach o ran y ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/05/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2019