P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymrus
P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymrus
P-05-876
- Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Evans, ar ôl casglu
cyfanswm o 173 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Yn ddiweddar, mae wedi dod i'n sylw bod Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi bod yn rhoi trwyddedau i ganiatáu lladd rhywogaethau sy'n ymddangos
ar restrau Coch ac Amber yr RSPB yng Nghymru, a hynny ar sail braidd yn annilys
o bryd i'w gilydd, fel "diogelu bwyd gwartheg" a "diogelu'r
awyr". Mae dulliau eraill yn bodoli i wasgaru adar heb fod angen eu lladd.
Mae pob rhywogaeth sydd wedi'u rhestru'n Goch mewn perygl
difrifol o ddifodiant yng Nghymru, felly mae angen gwella lefel yr amddiffyniad
er mwyn atal rhagor o ddirywiad i'n bioamrywiaeth naturiol.
Mae gan reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru safbwynt
anthropocentrig o ran yr amgylchedd naturiol, ac felly nid ydynt yn addas i'r
diben pan fo mater yn ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd a bioamrywiaeth.
Rydym ni, drwy lofnodi isod, yn dadlau nad yw Cyfoeth
Naturiol Cymru yn llwyddo i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth
yng Nghymru.
Rydym yn mynnu y dylai hawl Cyfoeth Naturiol Cymru (neu
unrhyw gorff arall) i roi trwyddedau i ganiatáu lladd unrhyw rywogaethau Coch
neu Amber rhestredig gael ei dynnu'n ôl ar unwaith, a bod angen i'r rheolwyr
ystyried safbwynt llai anthropocentrig mewn perthynas â'r holl faterion sy'n
ymwneud â'r amgylchedd a bioamrywiaeth.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth
bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r newidiadau a wnaed i
Drwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cael gwared ar
rywogaethau rhestredig coch ac ambr, a’r Adolygiad Trwyddedu Adar Gwyllt
ehangach sy’n cael ei gynnal yn 2020.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan
y Pwyllgor Deisebau ar 21/05/2019.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2019