P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi
P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi
P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau
di-garbon ym mhob polisi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew Misiak, ar ôl casglu
4,958 o lofnodion ar-lein a 1,190 ar bapur – cyfanswm o 6,148 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
1. Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.
2. Sicrhau bod yr holl bolisïau presennol ac yn y dyfodol yn gyson â'r
ymgyrch i osgoi newid pellach yn yr hinsawdd a chwymp ecolegol.
3. Deddfu mesurau polisi cyfreithiol i leihau allyriadau carbon i net sero
erbyn 2025 a lleihau lefelau defnydd.
4. Gweithredu Cynulliad Dinasyddion Cymru i oruchwylio'r newidiadau.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ar unwaith, ac
ymrwymo i weithredu'r camau sy'n weddill erbyn mis Mehefin 2019.
Rhaid i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus di-garbon gael eu
defnyddio fel catalydd i sbarduno datgarboneiddio cyflym yn y sector preifat
drwy gaffael, trethi a chymhorthdal. Ledled y DU, mae ugain cyngor dinas, tref
a sir eisoes wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, gan gynnwys Powys a Machynlleth.
Rhaid i ddinasyddion fod yn rhan er mwyn sicrhau bod y newid angenrheidiol yn
cael ei wneud ar draws gymdeithas, fel y dangoswyd ym model Sortition o
ddemocratiaeth gyfranogol. Ymhlith y mentrau y gellir creu partneriaeth â nhw
mae: The Climate Mobilization; Beyond Zero Emissions; Rapid Transition Alliance;
Green New Deal Group; One Million Climate Jobs; The Breakthrough Institute; a
Zero Carbon Britain.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae
Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd wedi rhybuddio
bod gennym 12 mlynedd i wneud y newidiadau angenrheidiol i gyfyngu ar gynnydd
mewn tymheredd byd-eang o 1.5ºC. Bydd methiant i weithredu yn golygu cynnydd
sylweddol a chyflymach yn lefelau'r môr a llifogydd, newidiadau eithafol a
sydyn i batrymau tywydd, methiant cnwd, a rhywogaethau o blanhigion, pryfed ac
anifeiliaid yn darfod. Yn anochel, bydd hyn yn arwain at amharu economaidd
byd-eang ac argyfwng dyngarol. Bydd hefyd yn effeithio'n andwyol ar les pobl
Cymru a biliynau o bobl eraill. Y llynedd, dywedodd Syr David Attenborough:
"Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu argyfwng a wnaed gan ddyn ar raddfa
fyd-eang. Ein bygythiad mwyaf mewn miloedd o flynyddoedd. Newid hinsawdd. Os na
fyddwn ni'n gweithredu, mae cwymp gwareiddiad a thranc llawer o'n byd naturiol
ar y gorwel. Mae pobl y byd wedi siarad. Mae'r neges yn glir. Mae amser yn
rhedeg allan."
Mae polisi Datblygu Un Blaned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dangos
y gall Cymru arwain y ffordd mewn polisi blaengar. Ond nid ydynt yn ysgogi'r
llywodraeth i weithredu yn unol â difrifoldeb y sefyllfa. Mae'r consensws
gwyddonol yn dangos y raddfa heb ei debyg o weithredu ar y cyd sydd ei angen er
mwyn osgoi'r canlyniadau gwaethaf yn y dyfodol agos. Ni allwn ofyn am ddim
llai.
Mae pobl ledled y byd yn cael eu hysbrydoli gan fudiad Extinction Rebellion i
annog llywodraethau ar bob lefel i wynebu'r her yn sgil newid hinsawdd a chwymp
ecolegol. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ein barnu ar ein dewrder i wneud y
newid yr ydym yn gwybod sydd ei angen ar frys. Gweithredwch nawr.
Statws
Yn ei
gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd
y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y
ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o
bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r
etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/05/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Aberconwy
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2019