P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru
P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru
P-05-874
Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau
Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lydia Jackson, ar ôl casglu
cyfanswm o 125 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Cynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig
untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
Fel y nodir gan Lywodraeth Cymru: "Gwaith
Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith
trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl
Cymru’n ymfalchïo ynddo."
Credwn y byddai gwahardd gwerthu plastig untro, sy’n
niweidio ein hamgylchedd naturiol, yn gam sylweddol o ran cyflawni’r nod hwn a
dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol tecach a diogelach i
ddinasyddion Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/09/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yn sgil y camau a ddisgrifiwyd gan Trafnidiaeth Cymru
a'u bwriad i ddileu'r defnydd o blastigau un defnydd yn llwyr ar ei
wasanaethau, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am
gyflwyno’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 07/05/2019.
Assembly
Constituency and Region
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/04/2019