NDM7028 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
NDM7028 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
NDM7028 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd
Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r
timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn gresynu at y diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau
iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a
ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys:
a) cynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn
termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad;
b) sicrhau bod timau argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran
achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda byrddau iechyd i wella
cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd
meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng
gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir
gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan
gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd
meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn
dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;
b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau
iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella
cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff;
a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd
meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
4:
cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan
gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella
gael eu gwirio'n annibynnol.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
4:
sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â
gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn
asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn
aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 3 Ebr 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS